Sefydlir y Paneli Adolygu i fod yn gwbl annibynnol ar eich asiantaeth.
Ni fydd yr un aelod o’r panel wedi cael unrhyw gyswllt blaenorol â’ch achos. Pan gewch eich papurau ar gyfer y panel, byddant yn cynnwys rhestr o aelodau’r panel a bydd cyfle i chi ddweud wrthym os credwch fod gwrthdaro buddiannau gan aelod penodol o’r panel adolygu.
Trefnir i gynnal cyfarfodydd panel mewn lleoliad cyfleus, gan ystyried pawb a fydd yn dod iddynt.
Mae yna restr ganolog o aelodau panel a benodwyd ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a’u profiad. Maen nhw’n cynnwys aelodau proffesiynol ac aelodau lleyg sydd â phrofiad personol o faethu a mabwysiadu. Yn ystafell aros y panel, bydd ffolder sy’n darparu gwybodaeth am bob aelod o’r panel.
TBydd aelodaeth y paneli sy’n ystyried yr achosion hyn yn cynnwys isafswm o 5 o bobl.
Bydd gan bob aelod o’r panel brofiad proffesiynol neu bersonol o fabwysiadu neu faethu:
Bydd pob panel yn cynnwys o leiaf:
Darperir hyn gan gynghorydd proffesiynol a fydd yn weithiwr cymdeithasol profiadol sydd â phrofiad, gwybodaeth a sgiliau priodol ym maes deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu a maethu.
Os bernir bod hynny’n briodol, gall y panel dderbyn cyngor gan unrhyw rai o’r cynghorwyr canlynol y mae’n rhaid iddynt fod yn aelodau o’r rhestr ganolog:
Caiff Cadeirydd sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol ei benodi i bob panel adolygu.
Bydd ysgrifennydd panel yn bresennol i gadw cofnod o’r cyfarfod.