Sut I Gyflwyno Cais

Gall yr IRM gynnig proses panel adolygu annibynnol pan fydd eich asiantaeth yn bwriadu peidio â'ch cymeradwyo fel gofalwr maeth neu fabwysiadwr, neu'n bwriadu rhoi terfyn ar eich cymeradwyaeth neu newid eich telerau cymeradwyo.

  1. Gallwch chi dderbyn y cynnig
  2. Gallwch wneud sylwadau ysgrifenedig i’ch asiantaeth fabwysiadu, neu
  3. Gallwch wneud cais ysgrifenedig i IRM Cymru am gael adolygu dyfarniad cymhwyster yr asiantaeth fabwysiadu

Ond, ni allwch wneud rhif 2 a rhif 3.

Beth gall IRM Cymru ei wneud drosoch chi

Mae IRM Cymru yn broses adolygu a gynhelir gan Banel Adolygu sy’n annibynnol ar yr asiantaethau mabwysiadu.

Os byddwch yn dewis defnyddio IRM Cymru bydd y panel adolygu:

Y pethau nad yw IRM Cymru yn eu gwneud

Sut mae’r Panel Adolygu’n gweithio

Mae’r Panel Adolygu yn ystyried yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud ei argymhelliad:

Os bydd ar y Panel Adolygu angen mwy o wybodaeth, gwneir cais amdano gennych chi neu gan eich asiantaeth fabwysiadu cyn cyfarfod y panel.

Cewch wahoddiad i ddod i’r cyfarfod. Bydd gan y Panel Adolygu gwestiynau i chi ac i’r asiantaeth fabwysiadu. Bydd y panel hefyd yn cael cyngor cyfreithiol a meddygol, os bydd gofyn.

Canlyniadau a deilliannau

Mae’r Panel Adolygu yn gwneud ei argymhelliad a bydd yn rhoi copi o gofnodion y panel i chi a’r asiantaeth.

Rhaid i’r asiantaeth fabwysiadu ystyried yr argymhelliad hwn yn ogystal ag argymhelliad y panel mabwysiadu gwreiddiol wrth wneud ei phenderfyniad terfynol ynghylch eich addasrwydd i fabwysiadu plentyn.

Gwneud cais

Rhaid i chi wneud cais ysgrifenedig sy’n cynnwys y canlynol:

Rhaid i chi wneud eich cais o fewn 40 diwrnod i ddyddiad llythyr yr asiantaeth fabwysiadu.

Gallwch anfon eich cais atom trwy’r post neu ar e-bost. Mae’n bwysig nad ydych chi’n anfon eich cais i unrhyw gyfeiriad arall gan y bydd hynny’n achosi oedi cyn i’r panel adolygu ystyried eich cais.

Gellir cyflwyno ceisiadau i: irm@childreninwales.org.uk

Termau

“Dyfarniad cymhwyster” yw dyfarniad y mae’r asiantaeth fabwysiadu’n ei wneud, ei bod yn: