Canllaw Cam Wrth Gam

Ein nod yw cwblhau pob achos cyn pen tri mis ar ôl derbyn y cais. Bydd eich asiantaeth fabwysiadu yn talu cost yr adolygiad, ond bydd angen i chi dalu eich costau teithio a’ch treuliau eich hun.

Cam 1

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, rydym yn nodi’r aelodau mwyaf addas o’r panel i ystyried eich achos. Rydym yn ceisio sicrhau pellter teithio rhesymol i chi. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad, amser a lleoliad cyfarfod y panel adolygu, gan roi o leiaf fis o rybudd i chi.

Cam 2

Mae IRM yn gofyn am eich cydsyniad i ddatgelu’r holl bapurau, gan gynnwys gwybodaeth feddygol lle bydd hynny’n berthnasol.

Cam 3

Unwaith y bydd y cydsyniad wedi’i lofnodi wedi dod i law, bydd IRM yn gofyn am yr holl wybodaeth gan yr asiantaeth fabwysiadu.

Step 4

Cewch wybod erbyn pa ddyddiad y bydd angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd hynny cyn i’r holl bapurau gael eu hanfon at aelodau’r panel.

Efallai y bydd Rheolwr Contract IRM hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych chi neu gan yr asiantaeth. Bydd cynghorwyr cyfreithiol a meddygol yn adolygu’r holl waith papur. Efallai y bydd y cynghorydd meddygol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i’w gynorthwyo â’i adroddiad.

Byddwch yn cael copi llawn o’r papurau ac eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti na ellir ei rhannu â chi.

Step 5

Paratoi ar gyfer cyfarfod y Panel Adolygu

Pan gewch eich gwahodd i ddod i’r cyfarfod, caiff eich partner ddod gyda chi. Fel arall, gall ffrind ddod yn gwmni i chi. Rôl y ffrind yw bod yn gefn i chi; ni chaiff siarad ar eich rhan na bod yn eiriolwr drosoch. Os oes gennych nam corfforol, nam synhwyraidd neu nam dysgu, neu os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, cewch ddod â chyfieithydd ar y pryd neu gynorthwy-ydd gyda chi yn ogystal â ffrind. Sylwch na allwn ni dalu unrhyw gostau i chi nac i unrhyw ffrind neu gyfieithydd ar y pryd sy’n dod i’r cyfarfod.

Gwahoddir eich asiantaeth fabwysiadu i anfon hyd at ddau gynrychiolydd i gyfarfod y Panel Adolygu.

Step 6

Cyfarfod y Panel Adolygu

Bydd ystafelloedd aros ar wahân ar eich cyfer chi a chynrychiolwyr yr asiantaeth os byddwch am eu defnyddio.

Bydd cynghorydd proffesiynol yno a fydd yn gallu rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth, canllawiau a gwaith ymchwil er mwyn sicrhau bod pob mater perthnasol wedi’i ystyried a’r gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn bresennol i gymryd cofnodion y cyfarfod.

Bydd aelodau’r panel yn penderfynu pa gwestiynau y maen nhw am eu gofyn i chi a chynrychiolwyr yr asiantaeth.  Byddwch i gyd yn cael eich gwahodd i mewn ar yr un pryd ac yn cael cyfle i wneud sylwadau ac ateb cwestiynau.

Efallai y byddant yn gweld cynrychiolwyr yr asiantaeth ar wahân os oes cwestiynau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti.

Bydd angen i chi fod ar gael am hyd at ddwy awr.

Bydd y panel yn gorffen eu trafodaethau ac yn llunio argymhelliad.

Step 7

Ar ôl cyfarfod y Panel Adolygu

Byddwn yn anfon copi o argymhelliad y panel adolygu atoch chi a’ch asiantaeth fabwysiadu. Fe’i hanfonir atoch trwy’r post o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y gwrandawiad. Bydd eich asiantaeth fabwysiadu yn ysgrifennu atoch wedyn i roi gwybod i chi am y penderfyniad terfynol.

Step 8

Y camau nesaf

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus ynghylch penderfyniad terfynol yr asiantaeth fabwysiadu, nid oes hawl i apelio yn ei erbyn. Os ydych yn dal yn anfodlon, dylech geisio eich cyngor eich hun, er enghraifft, gan gyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth, ynghylch y camau y gallech eu cymryd.