Asiantaethau a Darparwyr

Dylid rhoi gwybodaeth am yr IRM i ddarpar fabwysiadwyr neu ddarpar ofalwyr maeth os cânt ddyfarniad cymhwyster.  Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio’r llythyr enghreifftiol canlynol:

Llythyr Enghreifftiol - Mabwysiadu  Llythyr Enghreifftiol - Maethu

Pan dderbynnir cais, bydd Rheolwr y Contract yn cysylltu â’r asiantaeth i drafod pwy yw’r unigolyn mwyaf priodol i gysylltu â nhw.

Mae staff IRM bob amser yn hapus i drafod unrhyw ymholiadau a all fod gennych.

Yn dilyn cais, caiff y taflenni canllawiau a restrir isod eu hanfon:

Ceisiadau ynghylch Addasrwydd i Fabwysiadu  Ceisiadau ynghylch Addasrwydd i Faethu

Y Broses Fabwysiadu:

Proses IRM Cymru ar gyfer teuluoedd mabwysiadol

Y Broses Faethu:

Proses IRM Cymru ar gyfer gofalwyr maeth

Termau

Dyfarniad cymhwyster yw’r term a ddefnyddir pan fydd penderfyniad arfaethedig yn golygu bod rhywun yn gymwys i wneud cais i’r IRM.  Y pethau hynny fyddai:
• Maen nhw wedi gwneud cais i fod yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol ac mae’r asiantaeth wedi dweud ei bod ‘yn bwriadu peidio â’ch cymeradwyo’
• Maen nhw’n ofalwr maeth cymeradwy ac mae’r asiantaeth am newid eu telerau cymeradwyo

Maen nhw’n ofalwr maeth cymeradwy neu’n rhiant mabwysiadol ac mae’r asiantaeth am eu datgofrestru.