Canllaw Cam Wrth Gam

Bydd eich darparwr gwasanaeth maethu yn talu cost yr adolygiad, ond bydd angen i chi dalu eich costau teithio a’ch treuliau eich hun.  

Cam 1

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn nodi’r panel mwyaf addas i ystyried eich achos. Rydym yn ceisio sicrhau pellter teithio rhesymol i chi.

Cam 2

Mae’r IRM yn gofyn am eich cydsyniad i’r darparwr gwasanaeth maethu ddatgelu’r holl bapurau, gan gynnwys gwybodaeth feddygol.

Cam 3

Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad, amser a lleoliad cyfarfod y panel adolygu gan roi o leiaf un mis o rybudd i chi. Bydd angen i chi fod ar gael am hyd at ddwy awr ar ddiwrnod y panel.

Cam 4

Cewch wybod erbyn pa ddyddiad y bydd angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol.

Efallai y bydd Rheolwr Contract IRM hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol naill ai gennych chi neu gan yr asiantaeth. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth y gofynnodd y cynghorydd cyfreithiol neu feddygol amdani. Caiff yr holl wybodaeth ei hystyried gan y panel adolygu.

Byddwch yn cael copi o’r papurau a anfonwyd at aelodau’r panel ac eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti na ellir ei rhannu gyda chi.

Cam 5

Paratoi ar gyfer cyfarfod y Panel Adolygu
Caiff cyfaill neu gefnogwr ddod gyda chi i’r panel. Ei rôl yw bod yn gefn i chi; ni chaiff siarad ar eich rhan na bod yn eiriolwr drosoch. Os oes gennych nam corfforol, nam synhwyraidd neu nam dysgu, neu os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, cewch ddod â chyfieithydd ar y pryd neu gynorthwy-ydd gyda chi yn ogystal â ffrind.

Gwahoddir eich darparwr gwasanaeth maethu i anfon cynrychiolwyr priodol i gyfarfod y panel adolygu.

Cam 6

Cyfarfod y Panel Adolygu

Bydd yr aelodau o’ch panel yn cynnwys:

Efallai y bydd Rheolwr Contract IRM Cymru neu aelodau panel newydd eu penodi yn arsylwi’r panel.

Bydd y cynghorydd proffesiynol yn gallu rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth, canllawiau a gwaith ymchwil er mwyn sicrhau bod pob mater perthnasol wedi’i ystyried a’r gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn.

Bydd ysgrifennydd y panel yn bresennol i gymryd cofnodion y cyfarfod. Ni fydd ysgrifennydd y panel, y cynghorydd nac unrhyw arsyllwyr yn cymryd rhan yn nhrafodaethau’r panel adolygu nac yn rhan o ffurfio argymhelliad y panel adolygu

Bydd gan aelodau’r panel gwestiynau i chi a chynrychiolwyr y darparwr.  Cewch eich gwahodd i mewn gyda’ch gilydd a gofynnir cwestiynau i chi yn eich tro.

Efallai y bydd angen i’r panel weld cynrychiolwyr y darparwr ar wahân os oes ganddynt gwestiynau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti.

Gofynnir wedyn i bawb aros yn yr ystafell(oedd) aros tra bydd y panel yn trafod a oes arnynt angen rhagor o wybodaeth gennych chi neu gan yr asiantaeth. Pan fydd y panel wedi cael yr holl wybodaeth angenrheidiol byddant yn rhoi gwybod i chi y cewch adael.

Bydd y panel yn trafod yr achos ac yn llunio argymhelliad

Cam 7

Ar ôl cyfarfod y Panel Adolygu

O fewn 10 diwrnod gwaith, byddwn yn anfon copi o gofnodion y panel adolygu atoch ac eithrio unrhyw wybodaeth gan drydydd parti.  Anfonir copi o gofnodion y panel at eich darparwr gwasanaeth maethu i’w helpu i wneud penderfyniad.

Yna, bydd eich darparwr gwasanaeth maethu yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi beth yw ei benderfyniad terfynol.

Cam 8

Y camau nesaf

Os ydych yn dal i fod yn anhapus ynghylch penderfyniad terfynol y darparwr gwasanaeth maethu, nid oes hawl i apelio yn ei erbyn. Os ydych yn parhau i fod yn anfodlon, dylech geisio eich cyngor eich hun, er enghraifft, gan gyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth, ynghylch pa gamau y gallech eu cymryd.