Paneli

Sefydlir y Paneli Adolygu i fod yn gwbl annibynnol ar eich asiantaeth.

Achosion Datgelu Mabwysiadu

Bydd gan y paneli hyn o leiaf 5 aelod sy’n dod o’r rhestr ganolog o aelodau’r panel adolygu a byddant yn cynnwys:

·         Dau weithiwr cymdeithasol â’r profiad ôl gymhwyso angenrheidiol mewn mabwysiadu a gwaith lleoli gyda theuluoedd.

·          Tri unigolyn arall o’r rhestr ganolog

 

Darperir cyngor proffesiynol gan weithiwr cymdeithasol profiadol sydd â phrofiad, gwybodaeth a sgiliau priodol ym maes deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu a maethu.

Os bernir bod hynny’n briodol, gall y panel dderbyn cyngor gan unrhyw rai o’r cynghorwyr canlynol y mae’n rhaid iddynt fod yn aelodau o’r rhestr ganolog:

  1. cynghorydd cyfreithiol â gwybodaeth ac arbenigedd mewn deddfwriaeth mabwysiadu a maethu
  2. ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu neu faethu, p’un bynnag sy’n briodol i’r dyfarniad cymhwyster dan sylw
  3. unrhyw un arall y mae’r panel yn cyfrif fod ganddynt arbenigedd perthnasol mewn perthynas â’r dyfarniad sy’n cael ei ystyried

 

Caiff Cadeirydd sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol ei benodi i bob panel adolygu.

Bydd ysgrifennydd panel yn bresennol i gadw cofnod o’r cyfarfod.

Lleoliadau cyfarfod y Panel Adolygu

Trefnir i gynnal cyfarfodydd panel mewn lleoliad cyfleus, gan ystyried pawb a fydd yn dod iddynt.

Yr Aelodau o’r Panel Adolygu

Mae yna restr ganolog o aelodau panel a benodwyd ar sail eu sgiliau, eu cymwysterau a’u profiad. Maen nhw’n cynnwys aelodau proffesiynol ac aelodau lleyg sydd â phrofiad personol o faethu a mabwysiadu. Yn ystafell aros y panel, bydd ffolder sy’n darparu gwybodaeth am bob aelod o’r panel.

Adolygu penderfyniad ynghylch addasrwydd i fabwysiadu

Bydd aelodaeth y paneli sy’n ystyried yr achosion hyn yn cynnwys isafswm o 5 o bobl. Bydd gan bob aelod o’r panel brofiad proffesiynol neu bersonol o fabwysiadu neu faethu.
Bydd gan bob panel y canlynol, o leiaf:

Cyngor Proffesiynol i’r Paneli

Darperir hyn gan gynghorydd proffesiynol a fydd yn weithiwr cymdeithasol profiadol sydd â phrofiad, gwybodaeth a sgiliau priodol ym maes deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu a maethu.

Os bernir bod hynny’n briodol, gall y panel dderbyn cyngor gan unrhyw rai o’r cynghorwyr canlynol y mae’n rhaid iddynt fod yn aelodau o’r rhestr ganolog:

  1. cynghorydd cyfreithiol â gwybodaeth ac arbenigedd mewn deddfwriaeth mabwysiadu a maethu
  2. ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu neu faethu, p’un bynnag sy’n briodol i’r dyfarniad cymhwyster dan sylw
  3. unrhyw un arall y mae’r panel yn cyfrif fod ganddynt arbenigedd perthnasol mewn perthynas â’r penderfyniad sy’n cael ei ystyried

Caiff Cadeirydd sydd â sgiliau a phrofiad perthnasol ei benodi i bob panel adolygu.

Bydd ysgrifennydd panel yn bresennol i gadw cofnod o’r cyfarfod.