Gwybodaeth Amdanon Ni

The IRM can offer an independent review panel process where your agency is proposing not to approve you as a foster carer or adopter, or to terminate or change your terms of approval.
Gwybodaeth Amdanon Ni

Beth yw gwaith Paneli IRM?

Os byddwch yn anghytuno â’r penderfyniadau a gynigir gan eich asiantaeth, gall yr IRM gynnal adolygiad annibynnol o’r “dyfarniad cymhwyster” (gweler yr esboniad o’r term hwn isod) a gwneud argymhelliad newydd ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol o’r newydd. Nid apêl mo hyn ond mae’n rhaid i’r asiantaeth ystyried argymhelliad y panel adolygu pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniad terfynol.

Beth yw dyfarniad cymhwyster?

Mae hwn yn derm a ddefnyddir pan fydd rhywbeth wedi digwydd i’ch gwneud chi’n gymwys i wneud cais am adolygiad i’r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (IRM).

Y pethau hynny fyddai:-

Beth yw ystyr ‘bwriadu peidio â chymeradwyo’?

Mae’r panel a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau yn yr asiantaeth wedi ystyried eich cais neu eich adolygiad ac maen nhw’n credu y dylid peidio â’ch cymeradwyo, y dylid eich datgofrestru neu, os ydych chi’n ofalwr maeth, y dylid newid eich telerau cymeradwyo heb eich cydsyniad.

Byddant yn anfon llythyr atoch yn cynnig dewis i chi wneud y canlynol

Chewch chi ddim gofyn i’r asiantaeth ailystyried a gwneud cais i’r IRM, mae’n rhaid i chi ddewis gwneud un neu’r llall.

A oes ots pa mor hir mae’n cymryd i mi wneud cais i’r IRM?

Oes wir, mae hyn yn bwysig iawn oherwydd ni chaiff yr IRM dderbyn ceisiadau ar ôl 28 diwrnod (gofalwyr maeth), a 40 diwrnod (rhiant mabwysiadol).

Pam gallai’r IRM beidio ag ystyried fy achos?

Ni allant ystyried eich achos os byddwch chi’n gwneud cais y tu allan i’r amserlen (gweler uchod).

Rhaid bod gennych ddyfarniad cymhwyster (QD).

Beth sydd raid i mi wneud i gyflwyno cais i’r IRM?

Mae angen i chi wneud cais ysgrifenedig, gan nodi’r rhesymau pam rydych chi am gael adolygiad o argymhelliad yr asiantaeth. Does dim rhaid cynnwys manylion ar y cam hwn gan y byddwch yn cael cyfle i anfon rhagor o wybodaeth cyn y panel adolygu. Gallwch e-bostio’r cais hwn at Rachel.Robinson@childreninwales.org.uk.​​​​​​

Oes rhaid i’r asiantaeth faethu/fabwysiadu dderbyn argymhelliad y Mecanwaith Adolygu Annibynnol (panel IRM?)

Nac oes, mae’n ystyried yr holl wybodaeth, gan gynnwys unrhyw wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu â’r IRM a chofnodion y panel IRM a’i argymhellion ac yna bydd lluniwr penderfyniadau’r Asiantaeth (ADM) yn gwneud penderfyniad terfynol. Dyna pam y mae’n banel adolygu yn hytrach na phanel apêl.

Os ydy’n bosib na fydd yr argymhelliad yn newid, beth yw pwrpas cynnal adolygiad?

Cwestiwn da! Mae’r bobl sydd wedi cael adolygiad o’u hachosion gan IRM yn dweud wrthym, hyd yn oed pan na chawson nhw’r argymhelliad roedden nhw wedi gobeithio’i gael, eu bod nhw’n teimlo iddyn nhw gael cyfle i gyflwyno’r holl wybodaeth yr oedden nhw am ei chyflwyno a chael gwrandawiad a theimlo’n hyderus bod yr argymhelliad yn seiliedig ar wybodaeth lawn. Roedden nhw wedi cael cyfle hefyd i gyfrannu’n llawn yn y panel adolygu a gweld y cofnodion a fu’n gymorth iddyn nhw ddeall rhesymau’r panel dros yr argymhelliad.

Pwy sy’n gwneud y penderfyniad terfynol am ein haddasrwydd neu ein telerau cymeradwyo?

Y lluniwr penderfyniadau yn yr asiantaeth roeddech wedi cyflwyno cais iddi fydd yn gwneud hyn ac yn ysgrifennu atoch. Byddan nhw’n rhoi rhesymau i chi dros eu penderfyniad terfynol.

Gaf fi fynd i gyfarfod y panel?

Cewch ac fe gewch anfon gwybodaeth cyn dyddiad y panel i gael ei darllen gan aelodau’r panel.

Pa fath o wybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i’w hanfon?

Bydd yr aelodau o’r panel yn cael yr wybodaeth rydych chi’n ei hanfon, ynghyd â’r wybodaeth a aeth ger bron panel eich asiantaeth. Gall fod yn ddefnyddiol esbonio pam rydych chi am gael adolygiad o’r argymhelliad a’r rhesymau pam rydych chi’n teimlo bod argymhelliad eich asiantaeth yn anghywir.

Gall fod yn ddefnyddiol i geisiadau maethu edrych ar y cymwyseddau maethu ac ystyried pam rydych chi’n credu eich bod yn eu bodloni a darparu tystiolaeth o hynny. Rydym wedi cynnwys y rhain ar ddiwedd y ddogfen hon.

Oes rhaid i mi dalu am y panel?

Nac oes, os ydych chi’n gwneud cais am adolygiad, yr asiantaeth y gwnaethoch gais iddi neu eich asiantaeth gymeradwyo fydd yn talu’r costau.

Pwy fydd ar y panel?

Bydd isafswm o 5 aelod o’r panel, a fydd yn cynnwys gweithwyr cymdeithasol a phobl sydd â phrofiad personol o faethu a mabwysiadu

Bydd cynghorydd y panel yno hefyd, a chynghorydd meddygol weithiau, (mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bresennol ar gyfer ceisiadau mabwysiadu) ac ysgrifennydd y panel sy’n cymryd y cofnodion.

Weithiau bydd arsyllwyr yno, er enghraifft pobl sy’n hyfforddi i fod yn aelodau o’r panel, ac mae rheolwr gwasanaeth IRM yn aml yn arsylwi’r panel.

A fydd pobl yno sydd â chysylltiadau â’m hasiantaeth i?

Na fydd, mae aelodau’r panel yn bobl brofiadol sy’n dod o’r ‘rhestr ganolog’. Rhaid iddynt beidio â bod ag unrhyw gysylltiad â’ch asiantaeth yn awr nac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Beth fydd yn digwydd cyn y panel?

Cewch eich gwahodd (gan ddefnyddio Microsoft Teams) i gyfarfod â’r cadeirydd a chynghorydd y panel IRM ynghyd â’r bobl a fydd yn cynrychioli’r asiantaeth. Bydd y cadeirydd yn esbonio beth fydd yn digwydd ar ddiwrnod y panel a bydd cyfle i ofyn cwestiynau. Os bydd rhywun yn eich ‘cefnogi’, byddant yn cael gwahoddiad i ddod i’r cyfarfod.

Bydd yr aelodau o’r panel wedi derbyn yr holl wybodaeth cyn cyfarfod y panel. Bydd hyn yn cynnwys yr holl wybodaeth a gyflwynwyd i banel yr asiantaeth ac unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddwch chi wedi’i chyflwyno i gefnogi eich adolygiad.

Byddan nhw wedyn:

Beth fydd yn digwydd yn y panel?

Faint o gynrychiolwyr yr asiantaeth fydd yno?

Gofynnir i’r asiantaeth anfon 2 gynrychiolydd - y gweithiwr cymdeithasol sy’n asesu neu’n goruchwylio a’i reolwr yw’r rhain yn aml.

Gaf fi ddod â chefnogwr?

Cewch, byddan nhw’n cael ymuno â’r cyfarfod ond ni fyddant yn cael siarad.

Sut bydda i’n gwybod beth mae’r panel yn ei argymell?

Unwaith y byddwch yn gadael y panel, bydd trafodaeth a bydd aelodau’r panel yn llunio eu hargymhelliad a’r rhesymau drosto. Bydd yr argymhelliad, ond nid y rhesymau drosto, yn cael ei anfon atoch trwy’r e-bost yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. Gwneir hynny oherwydd credir y bydd modd i chi gael darlun mwy cywir os byddwch yn darllen y cofnodion sy’n dangos pam mae’r panel wedi gwneud yr argymhelliad hwn.

Gaf fi weld y cofnodion wedyn?

Cewch, anfonir y cofnodion atoch chi a’r asiantaeth ar yr un pryd. Os bydd unrhyw wybodaeth ynddynt gan drydydd parti (er enghraifft, gan ganolwyr) ac ni roddwyd caniatâd i’w rhannu â chi, yna bydd yr wybodaeth honno’n cael ei dileu.

Sut bydda i’n cael clywed y penderfyniad terfynol gan yr asiantaeth?

Bydd yr asiantaeth yn ysgrifennu atoch â’i phenderfyniad terfynol a’i rhesymau drosto. Mae’n rhaid hefyd iddynt roi gwybod i’r IRM beth yw’r penderfyniad hwnnw ac mae’r IRM yn rhannu’r wybodaeth â Llywodraeth Cymru bob chwe mis.

Gaf fi apelio yn erbyn argymhelliad yr IRM?

Na chewch, os ydych yn anhapus ac yn dymuno mynd â’r mater hwn ymhellach, bydd angen i chi ofyn am gyngor gan gyfreithiwr ynghylch pa ddewisiadau sydd gennych.

Gaf fi wneud cwyn?

Cewch, gallwch wneud cwyn i’r IRM os ydych chi’n teimlo i chi gael eich trin yn annheg ganddo. Ni chewch gwyno ynghylch yr argymhelliad.

Cymwyseddau Maethu BAAF

Rhestrir y cymwyseddau canlynol yn Adran E o Ffurflen F (Maethu).

Gofalu am blant

 

Darparu amgylchedd diogel a gofalgar

 

Gweithio fel rhan o dîm

 

Eich datblygiad eich hun