Os ydych chi’n ddarpar ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth presennol sydd wedi derbyn dyfarniad cymhwyster (gweler y diffiniad isod), mae gennych dri dewis:
gallwch dderbyn y cynnig
gallwch wneud sylwadau ysgrifenedig i’ch darparwr gwasanaeth maethu o fewn 28 diwrnod calendr i ddyddiad llythyr y darparwr, ac yn yr achos hwnnw, rhaid i’r darparwr gyfeirio’r achos yn ôl at eu panel maethu i adolygu’r cynnig hwnnw, neu
gallwch ysgrifennu at IRM Cymru cyn pen 28 diwrnod calendr o ddyddiad llythyr y darparwr i ofyn am adolygiad o ddyfarniad cymhwyster y darparwr gwasanaeth maethu
Fodd bynnag, ni chewch wneud rhif 2 a rhif 3.
Beth gall IRM Cymru ei wneud drosoch chi
Mae IRM Cymru yn broses adolygu a gynhelir gan Banel Adolygu sy’n annibynnol ar ddarparwyr gwasanaeth maethu.
Os byddwch yn dewis defnyddio IRM Cymru, bydd y panel adolygu, lle bydd hynny’n briodol:
yn adolygu eich addasrwydd fel darpar ofalwr/ofalwyr maeth
yn adolygu unrhyw newidiadau a gynigir i’ch telerau cymeradwyo
yn gwneud argymhelliad o’r newydd i’ch asiantaeth ynghylch eich addasrwydd i faethu plentyn a’ch telerau cymeradwyo, gan gynnwys cymeradwyaeth ar gyfer plentyn penodol
Y pethau nad yw IRM Cymru yn eu gwneud
Nid yw’n gwneud penderfyniad terfynol am eich achos. Eich darparwr gwasanaeth maethu fydd yn gwneud hynny ar ôl ystyried argymhelliad panel IRM.
Nid yw’n ystyried addasrwydd y cynllun gofal ar gyfer plentyn.
Nid yw’n ymdrin â chwynion yn erbyn darparwr gwasanaeth maethu.
Sut mae’r Panel Adolygu’n gweithio
Mae’r Panel Adolygu yn ystyried yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud ei argymhelliad:
pob gwybodaeth a gyflwynwyd i’r panel maethu gwreiddiol;
rhesymau’r darparwr dros eu penderfyniad cymhwyso
eich rhesymau chi dros ofyn am adolygiad
unrhyw wybodaeth ychwanegol a gyflwynir gennych
Os bydd ar y Panel Adolygu angen rhagor o wybodaeth, gwneir cais amdano gan eich darparwr gwasanaeth maethu cyn cyfarfod y panel.
Cewch wahoddiad i ddod i’r cyfarfod. Bydd gan y panel adolygu gwestiynau i chi a’r darparwr gwasanaeth maethu. Bydd y panel hefyd yn cael cyngor cyfreithiol a meddygol os bydd gofyn.
Canlyniadau a deilliannau
Mae’r Panel Adolygu yn gwneud ei argymhelliad a bydd yn rhoi copi o gofnodion y panel i chi a’r darparwr gwasanaeth maethu.
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu ystyried yr argymhelliad hwn yn ogystal ag argymhelliad y panel maethu gwreiddiol wrth wneud ei benderfyniad terfynol ynghylch eich addasrwydd i faethu plentyn.
Termau
“Dyfarniad cymhwyster” yw dyfarniad y mae darparwr gwasanaeth maethu’n ei wneud eu bod nhw:
Yn cynnig peidio â’ch cymeradwyo fel rhywun addas i faethu;
Yn anfodlon bellach eich bod yn dal i fod yn rhywun addas i faethu; neu
Yn bwriadu newid telerau eich cymeradwyaeth bresennol