Sut I Gyflwyno Cais

Os ydych chi’n ddarpar ofalwr maeth neu’n ofalwr maeth presennol sydd wedi derbyn dyfarniad cymhwyster (gweler y diffiniad isod), mae gennych dri dewis:

  1. gallwch dderbyn y cynnig
  2. gallwch wneud sylwadau ysgrifenedig i’ch darparwr gwasanaeth maethu o fewn 28 diwrnod calendr i ddyddiad llythyr y darparwr, ac yn yr achos hwnnw, rhaid i’r darparwr gyfeirio’r achos yn ôl at eu panel maethu i adolygu’r cynnig hwnnw, neu
  3. gallwch ysgrifennu at IRM Cymru cyn pen 28 diwrnod calendr o ddyddiad llythyr y darparwr i ofyn am adolygiad o ddyfarniad cymhwyster y darparwr gwasanaeth maethu

Fodd bynnag, ni chewch wneud rhif 2 a rhif 3.

Beth gall IRM Cymru ei wneud drosoch chi

Mae IRM Cymru yn broses adolygu a gynhelir gan Banel Adolygu sy’n annibynnol ar ddarparwyr gwasanaeth maethu.

Os byddwch yn dewis defnyddio IRM Cymru, bydd y panel adolygu, lle bydd hynny’n briodol:

Y pethau nad yw IRM Cymru yn eu gwneud

Sut mae’r Panel Adolygu’n gweithio

Mae’r Panel Adolygu yn ystyried yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud ei argymhelliad:

Os bydd ar y Panel Adolygu angen rhagor o wybodaeth, gwneir cais amdano gan eich darparwr gwasanaeth maethu cyn cyfarfod y panel.

Cewch wahoddiad i ddod i’r cyfarfod. Bydd gan y panel adolygu gwestiynau i chi a’r darparwr gwasanaeth maethu. Bydd y panel hefyd yn cael cyngor cyfreithiol a meddygol os bydd gofyn.

Canlyniadau a deilliannau

Mae’r Panel Adolygu yn gwneud ei argymhelliad a bydd yn rhoi copi o gofnodion y panel i chi a’r darparwr gwasanaeth maethu.

Rhaid i’r darparwr gwasanaeth maethu ystyried yr argymhelliad hwn yn ogystal ag argymhelliad y panel maethu gwreiddiol wrth wneud ei benderfyniad terfynol ynghylch eich addasrwydd i faethu plentyn.

Termau

“Dyfarniad cymhwyster” yw dyfarniad y mae darparwr gwasanaeth maethu’n ei wneud eu bod nhw: