Dylid rhoi gwybodaeth am yr IRM i ddarpar fabwysiadwyr neu ddarpar ofalwyr maeth os cânt ddyfarniad cymhwyster. Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio’r llythyr enghreifftiol canlynol:
Llythyr Enghreifftiol - Mabwysiadu Llythyr Enghreifftiol - Maethu
Pan dderbynnir cais, bydd Rheolwr y Contract yn cysylltu â’r asiantaeth i drafod pwy yw’r unigolyn mwyaf priodol i gysylltu â nhw.
Mae staff IRM bob amser yn hapus i drafod unrhyw ymholiadau a all fod gennych.
Yn dilyn cais, caiff y taflenni canllawiau a restrir isod eu hanfon:
Ceisiadau ynghylch Addasrwydd i Fabwysiadu Ceisiadau ynghylch Addasrwydd i Faethu
Y Broses Fabwysiadu:
Proses IRM Cymru ar gyfer teuluoedd mabwysiadol
Y Broses Faethu:
Dyfarniad cymhwyster yw’r term a ddefnyddir pan fydd penderfyniad arfaethedig yn golygu bod rhywun yn gymwys i wneud cais i’r IRM. Y pethau hynny fyddai:
• Maen nhw wedi gwneud cais i fod yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol ac mae’r asiantaeth wedi dweud ei bod ‘yn bwriadu peidio â’ch cymeradwyo’
• Maen nhw’n ofalwr maeth cymeradwy ac mae’r asiantaeth am newid eu telerau cymeradwyo
Maen nhw’n ofalwr maeth cymeradwy neu’n rhiant mabwysiadol ac mae’r asiantaeth am eu datgofrestru.