Canllaw Cam Wrth Gam

Ein nod yw cwblhau pob achos cyn pen tri mis ar ôl derbyn y cais. Bydd eich asiantaeth fabwysiadu yn talu cost yr adolygiad.

Cam 1

Pan fyddwn yn derbyn eich cais, rydym yn nodi’r aelodau mwyaf addas o’r panel i ystyried eich achos. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am ddyddiad ac amser cyfarfod y panel adolygu, gan roi o leiaf un mis o rybudd i chi.

Cam 2

Mae’r IRM yn gofyn am eich cydsyniad i ddatgelu’r holl bapurau, gan gynnwys gwybodaeth feddygol lle bydd hynny’n berthnasol.

Cam 3

Unwaith bydd y cydsyniad wedi’i lofnodi wedi dod i law, mae’r IRM yn gofyn am yr holl wybodaeth gan yr asiantaeth fabwysiadu.

Cam 4

Cewch wybod erbyn pa ddyddiad y bydd angen cyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd hyn cyn i’r holl bapurau gael eu hanfon at aelodau’r panel.

Efallai y bydd Rheolwr Contract IRM hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol gennych chi neu gan yr asiantaeth. Bydd cynghorwyr cyfreithiol a meddygol yn adolygu’r holl waith papur. Efallai y bydd y cynghorydd meddygol yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i’w gynorthwyo â’i adroddiad.

Byddwch yn cael copi llawn o’r papurau ac eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti na ellir ei rhannu â chi.

Cam 5

Paratoi ar gyfer cyfarfod y Panel Adolygu

Cewch wahodd partner, cyfaill neu gefnogwr i ddod i’r cyfarfod gyda chi. Ei rôl yw bod yn gefn i chi; ni chaiff siarad ar eich rhan na bod yn eiriolwr drosoch. Os oes gennych nam corfforol, nam synhwyraidd neu nam dysgu, neu os nad yw Saesneg yn iaith gyntaf i chi, cewch ddod â chyfieithydd ar y pryd neu gynorthwy-ydd gyda chi yn ogystal â ffrind. Sylwch na allwn ni dalu unrhyw gostau i chi nac i unrhyw ffrind neu gyfieithydd ar y pryd.

Caiff eich asiantaeth fabwysiadu ei gwahodd i anfon hyd at ddau gynrychiolydd i gyfarfod y Panel Adolygu.

Cam 6

Cyfarfod y Panel Adolygu​​​​​​​

Byddwch chi a chynrychiolwyr yr asiantaeth yn cael eich gwahodd i ymuno â’r cyfarfod ar yr un pryd.

Bydd cynghorydd proffesiynol yno a fydd yn gallu rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth, canllawiau a gwaith ymchwil er mwyn sicrhau bod pob mater perthnasol wedi’i ystyried a’r gweithdrefnau cywir wedi eu dilyn. Bydd Ysgrifennydd y Panel yn bresennol i gymryd cofnodion y cyfarfod.

Bydd aelodau’r panel yn penderfynu pa gwestiynau y maen nhw am eu gofyn i chi a chynrychiolwyr yr asiantaeth.  Bydd cyfle i chi wneud sylwadau ac ateb cwestiynau.

Efallai y byddant yn gweld cynrychiolwyr yr asiantaeth ar wahân os oes cwestiynau ynghylch gwybodaeth gyfrinachol gan drydydd parti.

Bydd angen i chi fod ar gael am hyd at ddwy awr.

Bydd y panel yn gorffen eu trafodaethau ac yn penderfynu ar argymhelliad.

Cam 7

Ar ôl cyfarfod y Panel Adolygu​​​​​​​

Byddwn yn anfon copi o argymhelliad y panel adolygu atoch chi a’r asiantaeth fabwysiadu. Fe’i hanfonir atoch o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y gwrandawiad. Bydd eich asiantaeth fabwysiadu yn ysgrifennu atoch wedyn i roi gwybod i chi am ei phenderfyniad terfynol.  

Cam 8

Y camau nesaf​​​​​​​

Os ydych yn parhau i fod yn anhapus ynghylch penderfyniad terfynol yr asiantaeth fabwysiadu, nid oes hawl i apelio yn ei erbyn. Os ydych yn dal yn anfodlon, dylech geisio eich cyngor eich hun, er enghraifft, gan gyfreithiwr neu Cyngor ar Bopeth, ynghylch y camau y gallech eu cymryd.​​​​​​​