Pan fyddwn yn derbyn eich cais, byddwn yn nodi'r aelodaeth panel sydd fwyaf addas i ystyried eich achos. Cynhelir pob panel ar-lein. Byddwn yn eich hysbysu o ddyddiad ac amser cyfarfod y panel adolygu gan roi o leiaf un mis o rybudd i chi.
Mae IRM yn gofyn am eich caniatâd i ddatgelu pob dogfen gan gynnwys, lle bo'n berthnasol, gwybodaeth feddygol.
Unwaith y bydd caniatâd wedi'i lofnodi wedi'i dderbyn, mae'r IRM yn gofyn am yr holl wybodaeth gan yr asiantaeth fabwysiadu.
Byddwch yn cael dyddiad ar gyfer cyflwyno unrhyw wybodaeth ychwanegol. Bydd hyn cyn i'r holl ddogfennau gael eu hanfon at aelodau'r panel.
Gall Rheolwr Contractau IRM hefyd ofyn am wybodaeth ychwanegol gennych chi neu'r asiantaeth. Adolygir yr holl ddogfennaeth gan ymgynghorydd cyfreithiol a meddygol. Gall y cynghorydd meddygol hefyd ofyn am wybodaeth ychwanegol i'w cynorthwyo gyda'u hadroddiad.
Byddwch yn derbyn copi llawn o'r papurau ac eithrio unrhyw wybodaeth gyfrinachol trydydd parti na ellir ei rhannu gyda chi.
Pan fyddwch wedi cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod, gallwch ddewis rhywun i’ch cefnogi. Rôl y cefnogwr yw rhoi cymorth moesol i chi; ni allant siarad ar eich rhan na gweithredu fel eiriolwr. Os oes gennych nam corfforol, synhwyraidd neu ddysgu, neu os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwch ddod â chyfieithydd neu gynorthwyydd gyda chi yn ogystal â chefnogwr.
Gwahoddir eich asiantaeth fabwysiadu i anfon hyd at ddau gynrychiolydd i gyfarfod y Panel Adolygu.
Pan fyddwch yn mewngofnodi i wahoddiad y panel byddwch yn cael eich cadw mewn ystafell aros rithwir nes bod y panel yn barod i ddechrau.
Bydd cynghorydd proffesiynol ar gael a fydd yn gallu rhoi cyngor ar ddeddfwriaeth, arweiniad ac ymchwil i sicrhau bod yr holl faterion perthnasol yn cael eu hystyried a bod y gweithrediadau cywir yn cael eu dilyn. Bydd Ysgrifennydd Panel yn bresennol i gymryd cofnodion y cyfarfod.
Bydd aelodau'r panel yn penderfynu ar y cwestiynau y maent am eu gofyn i chi a chynrychiolwyr yr asiantaeth. Byddwch i gyd yn cael eich gwahodd i'r gwrandawiad panel gyda'ch gilydd ac yn cael cyfle i wneud eich sylwadau ac ateb cwestiynau.
Gellir gweld cynrychiolwyr yr asiantaeth ar wahân os oes cwestiynau yn ymwneud â gwybodaeth gyfrinachol trydydd parti.
Bydd angen i chi fod ar gael am hyd at dair awr.
Bydd y panel yn gorffen eu trafodaethau ac yn dod i argymhelliad.
Byddwn yn anfon copi o argymhelliad y panel adolygu atoch chi a’ch asiantaeth fabwysiadu. Bydd hwn yn cael ei e-bostio atoch o fewn 10 diwrnod gwaith i ddyddiad y gwrandawiad. Bydd eich asiantaeth fabwysiadu wedyn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am ei phenderfyniad terfynol a fydd yn cael ei wneud gan Benderfynwr yr Asiantaeth.
Os ydych yn dal yn anfodlon â phenderfyniad terfynol yr asiantaeth fabwysiadu, nid oes hawl i apelio yn ei erbyn. Os ydych yn dal yn anfodlon, dylech ofyn am eich cyngor eich hun gan, er enghraifft, gyfreithiwr neu’r Ganolfan Cyngor ar Bopeth, ynghylch pa gamau y gallwch eu cymryd.