Sut I Gyflwyno Cais

Os ydych chi’n oedolyn sydd wedi eich mabwysiadu ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005 neu’n berthynas genedigol i rywun sydd wedi’i fabwysiadu ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005, ac rydych wedi derbyn dyfarniad cymhwyster gan eich asiantaeth fabwysiadu nad ydych yn cytuno ag ef, gallwch naill ai wneud cais i IRM Cymru am adolygiad o ddyfarniad cymhwyster yr asiantaeth fabwysiadu neu gallwch wneud sylwadau i’ch asiantaeth fabwysiadu. Bydd cost adolygu eich achos yn cael ei thalu gan eich asiantaeth.

Beth gall IRM Cymru ei wneud drosoch chi

Mae IRM Cymru yn broses adolygu a gynhelir gan Banel Adolygu sy’n annibynnol ar yr asiantaethau mabwysiadu.

Os byddwch yn dewis defnyddio IRM Cymru, bydd y panel adolygu’n gwneud argymhelliad o’r newydd i’ch asiantaeth ynghylch a ddylai’r asiantaeth barhau â’i dyfarniad gwreiddiol neu beidio.

Y pethau nad yw IRM Cymru yn eu gwneud

Sut mae’r Panel Adolygu’n gweithio

Mae’r Panel Adolygu yn ystyried yr wybodaeth ganlynol er mwyn gwneud ei argymhellion:

Os bydd ar y Panel Adolygu angen mwy o wybodaeth, gwneir cais amdano gennych chi neu eich asiantaeth fabwysiadu.

Cewch eich gwahodd i ddod i’r cyfarfod a bydd y Panel Adolygu yn cyfarfod â chi a’r asiantaeth fabwysiadu i ofyn am eglurhad ynglŷn â’r wybodaeth sydd yn yr adroddiadau. Bydd y panel hefyd yn cael cyngor cyfreithiol os bydd yn dymuno gwneud hynny.

Canlyniadau a deilliannau

Mae'r Panel Adolygu yn gwneud ei argymhelliad a bydd yn darparu copïau o'i argymhelliad a'i resymau i chi ac i'r asiantaeth fabwysiadu. 

Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio â chymryd unrhyw gamau cyn cael argymhellion y Panel Adolygu a rhaid iddi ystyried yr argymhelliad hwn wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'i phenderfyniad gwreiddiol ai peidio.

Hyd yma, nid yw IRM Cymru wedi adolygu unrhyw achosion ynghylch datgeliadau mabwysiadu ers i’r Rheoliadau gael eu gweithredu yn Rhagfyr 2005.

Termau

“Dyfarniad cymhwyster” yw dyfarniad y mae asiantaeth fabwysiadu’n ei wneud pan na fydd yn bwrw ymlaen â chais neu pan yw’n bwriadu datgelu neu ddal gwybodaeth a warchodir yn ôl o gofnodion mabwysiadu yn groes i’r farn a fynegwyd gan y sawl y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef/â hi.